Yn y llun uchod: Serah a Jaime Barnes gyda theulu a ffrindiau a Claire Rumble, Swyddog Codi Arian.
Mae Molly’s Memory, a sefydlwyd gan Serah a Jamie Barnes, wedi codi £3,918 ar gyfer Tîm Bydwreigiaeth Profedigaeth Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd Serah: “Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi Molly’s Memory ers 2019 ac wedi mynychu ein digwyddiadau, y marathon dartiau 24 awr a nosweithiau seicig.
“Mae’r elusen hon yn agos iawn at fy nghalon i a chalon fy nheulu, gan godi arian er mwyn cefnogi’r rhai yr effeithir arnynt gan farw-enedigaeth. Byddaf yn parhau i godi arian dros y blynyddoedd i ddod trwy Molly’s Memory.
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym eisiau dweud diolch o galon i Serah, Jamie a’u cefnogwyr am eu caredigrwydd a’u haelioni.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG.