Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu darparu gwerth dros £8,000 o offer chwarae i Ward Cilgerran yn Ysbyty Glangwili.
Mae elusen y GIG wedi prynu dwy gert hapchwarae feddygol TheRockinR a theganau ac offer chwarae eraill ar gyfer ward y plant.
Bydd y ddwy gert hapchwarae yn darparu cyfleoedd chwarae a hamdden y mae mawr eu hangen i blant a phobl ifanc sy'n treulio amser yn yr ysbyty neu'n ymweld fel claf allanol.
Bydd y cyfleusterau hapchwarae diweddaraf yn tynnu sylw cleifion ifanc sy'n derbyn triniaeth yn y ward ac yn hybu ymdeimlad o normalrwydd.
Dywedodd Karen Thomas, Pennaeth Chwarae Therapiwtig: “Rydym mor ddiolchgar am y ddwy gert hapchwarae TheRockinR a'r offer chwarae newydd. Maent yn helpu’r tîm chwarae therapiwtig i weithio’n fwy effeithiol a chanolbwyntio eu hamser ar y plant a’r bobl ifanc yn ein gofal.
“Mae gallu chwarae tra yn yr ysbyty yn golygu y gall y plant a’r bobl ifanc barhau ag agwedd o’u bywyd normal. Mae’r offer yn helpu wrth iddynt fynd trwy driniaethau a gweithdrefnau yn yr ysbyty, gan leihau effeithiau ynysu, straen a phryder.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”