Neidio i'r prif gynnwy

Mae Tregroes Waffles wedi codi dros £1,000 ar gyfer y Gronfa Dymuniadau

Yn y llun uchod (o’r chwith i’r dde): Ray D’arcy, Rheolwr Gyfarwyddwr Tregroes Waffles; Rachel Brown, Arbenigwr Chwarae Gofal Lliniarol Pediatrig; Laura Thomas, Nyrs Plant Cymunedol a Rebecca McDonald, Nyrs Gofal Lliniarol Pediatrig.

 

Mae Tregroes Waffles wedi codi dros £1,000 ar gyfer y Gronfa Dymuniadau yn ystod eu dathliadau pen-blwydd yn 40 oed.

Mae Tregroes Waffles yn fecws teuluol wedi’i leoli ym mryniau ymdonnog Dyffryn Teifi.

Cododd y becws arian ar gyfer y Gronfa Dymuniadau yn ei Ddiwrnod Hwyl i'r Teulu i ddathlu eu pen-blwydd yn 40 oed ddydd Sadwrn 19 Awst. Mae'r Gronfa Dymuniadau yn creu eiliadau hudolus i blant a phobl ifanc â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd ac sy'n bygwth bywyd.

Dywedodd Ray D’Arcy, Rheolwr Gyfarwyddwr yn Tregroes Waffles: “Roedd yn ddiwrnod hynod lwyddiannus gan godi dros £1,000 i’r Gronfa Dymuniadau.

“Daeth niferoedd mawr o’r gymuned leol a chefnogwyr brwd ein wafflau allan i fwynhau diwrnod llawn hwyl. Uchafbwynt y diwrnod i lawer oedd y becws yn agor ei ddrysau i ganiatáu i’r cyhoedd weld sut rydym yn gwneud ein wafflau blasus, sydd fel arfer yn gyfrinach sy’n cael ei gwarchod yn ofalus.

“Roedden ni wedi ein syfrdanu gyda’r nifer a ddaeth i’r digwyddiad ac wrth ein bodd yn gallu codi cymaint o arian at achos mor haeddiannol.”

Mae ymgyrch y Gronfa Dymuniadau yn cael ei chyflwyno gan Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian yr Elusen: “Diolch yn fawr iawn i Tregroes Waffles am ddewis cefnogi’r Gronfa Dymuniadau yn ystod eich dathliad Pen-blwydd yn 40 oed. Mae'n wych partneru â chwmni mor boblogaidd.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol i’r Gronfa Dymuniadau yn ein galluogi i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r plant, y bobl ifanc a’r teuluoedd a gefnogir gan y Tîm Gofal Lliniarol Pediatrig.”

I ddarganfod mwy am y Gronfa Dymuniadau, ewch i:

 https://elusennauiechydhyweldda.gig.cymru/ymgyrchoedd-a-digwyddiadau/y-gronfa-dymuniadau/

Dilynwch ni: