Yn y llun uchod: Nigel Davies, aelod o staff SCBU, Sioned James ac Anwen Davies.
Mae Taith Tractorau Nadolig Cwm Gwendraeth wedi codi £4,688.51 ar gyfer yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod (SCBU) yn Ysbyty Glangwili.
Nigel Davies ac Anwen Davies, tad a merch o Bontyberem, drefnodd y daith tractorau Nadolig a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2025 ym Mhontyberem. Dyma eu pedwerydd digwyddiad codi arian taith tractorau ar gyfer Elusennau Iechyd Hywel Dda ac elusennau lleol eraill.
Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian: “Diolch i Anwen, Nigel a phawb a fu’n rhan o gefnogi Taith Tractorau Nadolig Cwm Gwendraeth.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG.