Neidio i'r prif gynnwy

Mae staff yr ICU yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd i godi arian ar gyfer Glangwili

Yn y llun uchod: Staff o'r ICU yn Ysbyty Glangwili.

 

Rhedodd staff o'r Uned Gofal Dwys (ICU) yn Ysbyty Glangwili Hanner Marathon Caerdydd a chodwyd £4,200 tuag at ardd ICU newydd.

Fe wnaeth staff o’r uned rhedeg yr hanner marathon ar 1 Hydref 2023 i godi arian ar gyfer yr ardd.

Bydd yr ardd yn cefnogi cleifion sy'n cael eu derbyn i'r ICU gyda'u taith i adferiad. Bydd yn rhoi hwb therapiwtig i gleifion, gan roi ymdeimlad o normalrwydd iddyn nhw a'u hanwyliaid.

Bydd yr ardd yn caniatáu amser i ffwrdd o'r ardal glinigol, gan ddarparu lle heddychlon i gleifion gwrdd â theulu a ffrindiau a hefyd cyfle i weld eu hanifeiliaid anwes cariadus. Bydd yr ardd hefyd yn lle tawel i staff ac yn cefnogi eu lles.

Dywedodd Nerys Davies, Uwch Reolwr Nyrsio: “Roedd y diwrnod yn anhygoel, fe wnaethon ni i gyd fwynhau’n fawr ac rydym yn ddiolchgar iawn am roddion hael pawb. Rydyn ni i gyd yn falch iawn.

“Rydym am i’r arian fynd tuag at gyflawni ein breuddwyd o adeiladu gardd ICU y bydd cleifion ac aelodau o’u teuluoedd yn gallu ei mwynhau.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Am ymdrech tîm gwych! Diolch yn fawr iawn i holl staff yr ICU yn Glangwili a gymerodd ran yn Hanner Marathon Caerdydd.

“Mae cefnogaeth ein codwyr arian gwych yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: