Neidio i'r prif gynnwy

Mae rhoddion elusennol yn ariannu sganiwr pledren newydd ar gyfer Ysbyty Llwynhelyg

Yn y llun, o'r chwith i'r dde, gyda'r sganiwr pledren: Max Rodrigues, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd; Libby Davies, Nyrs Gofrestredig; Leeanna Arran, Prif Nyrs.

 

Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda - elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Hywel Dda - wedi ariannu sganiwr pledren newydd gwerth dros £10,000 ar gyfer uned Gofal Brys yr Un Diwrnod (SDEC) Ysbyty Llwynhelyg.

Mae SDEC yn darparu gofal yr un dydd i gleifion brys a fyddai fel arall yn cael eu derbyn i'r ysbyty. O dan y model gofal hwn, gall cleifion sy’n dod i’r ysbyty â chyflyrau perthnasol gael eu hasesu, eu diagnosio a’u trin yn gyflym heb gael eu derbyn i ward, ac os yw’n glinigol ddiogel i wneud hynny, byddant yn mynd adref yr un diwrnod ag y darperir eu gofal.

Bydd darparu’r offer newydd yn sicrhau bod cyfleusterau sganio’r bledren ar gael mewn modd amserol yn yr uned SDEC, a bod gofal yn cael ei ddarparu mor gyflym ac effeithiol â phosibl.

Dywedodd Helen Johns, Rheolwr Gwasanaeth Ysbyty: “Rydym am ddiolch yn fawr iawn i bawb y mae eu rhoddion wedi gwneud y pryniant hwn yn bosibl. Mae eich haelioni wedi ein galluogi i brynu darn hynod ddefnyddiol o offer a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gleifion a staff.”

Dywedodd Leeanna Arran, Uwch Brif Nyrs (SDEC), “Mae cael sganiwr yn yr uned yn cefnogi staff i asesu, gwneud diagnosis a thrin cleifion ar yr un diwrnod mewn modd amserol gyda’r nod bod cleifion wedyn yn cysgu gartref yn eu gwelyau eu hunain ac yn osgoi derbyniadau diangen i’r ysbyty.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: