Neidio i'r prif gynnwy

Mae rhoddion elusennol yn ariannu fflachlampau pen ar gyfer nyrsys cymunedol ledled Sir Gaerfyrddin

Yn y llun uchod: Andree Richards, Arweinydd Tîm Nyrsio Cymunedol, Llanelli.

 

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi prynu 300 o fflachlampau pen ar gyfer nyrsys cymunedol ledled Sir Gaerfyrddin, diolch i roddion hael.

Mae nyrsys cymunedol yn darparu gofal meddygol a nyrsio i gleifion y tu allan i leoliadau ysbyty traddodiadol.

Bydd y fflachlampau pen yn helpu'r nyrsys sy'n gweithio gyda'r nos i weld.

Dywedodd Craig Jones, Nyrs Arweiniol Clinigol: “Rydym mor ddiolchgar am roddion i’n helusen GIG sydd wedi prynu’r fflachlampau pen ar gyfer nyrsys cymunedol sy’n cefnogi cleifion ledled Sir Gaerfyrddin.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG.

Dilynwch ni: