Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi prynu Clustogau Repose i’w defnyddio ledled Sir Gaerfyrddin.
Mae Clustogau Repose yn glustog lleddfu pwysau a ddefnyddir ar gadeiriau a chadeiriau olwyn cyffredinol i leddfu pwysedd a lleihau nifer yr achosion o ddolur pwysedd.
Bydd y clustogau'n cael eu defnyddio gan y tîm nyrsio cymunedol sy'n cefnogi cleifion ar draws Dyffryn Tywi, Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd y Brif Nyrs Alison Wardrop, Nyrs Ardal Iau: “Rydym mor ddiolchgar i’r cleifion a’r teuluoedd y mae eu rhoddion wedi ein galluogi i brynu’r clustogau Repose hyn.
“Bydd ein nyrsys nawr yn gallu cynnig y clustogau i helpu i leddfu poen ac anesmwythder cleifion wrth eistedd mewn cadeiriau neu gadeiriau olwyn am gyfnodau hir o amser. Bydd y clustogau hefyd yn helpu i leihau amlder a difrifoldeb dolur pwysedd yn y gymuned leol.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG.