Yn y llun uchod (Chwith i'r Dde): Corinda Pengilly, Hyrwyddwr Elusen Tesco a Katie Hancock, Swyddog Codi Arian.
Mae’n bleser gan Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Hywel Dda, gyhoeddi bod grant o £1,500 gan Cychwyn Cryfach Tesco wedi ariannu cwrs therapi syrffio ar gyfer pobl ifanc â heriau iechyd meddwl.
Mae Tonic Surf, prosiect therapi sy'n defnyddio syrffio a'r amgylchedd arfordirol naturiol fel offeryn adfer i blant a phobl ifanc 14-25 oed, wedi defnyddio'r cyllid i gyflwyno rhaglen therapi syrffio 10 wythnos i bobl ifanc ledled Sir Benfro.
Cyflwynwyd y sesiynau therapi syrffio wythnosol ar y cyd gan Ysgol Syrffio Tonic Surf a Walkin’ on Water, mewn partneriaeth â Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Drwy gydol y rhaglen, cefnogwyd y cyfranogwyr gan hyfforddwyr syrffio cymwys ynghyd â chlinigwyr CAMHS, gan ddarparu amgylchedd diogel a strwythuredig i hyrwyddo lles emosiynol a thwf personol.
Mae Tonic Surf yn defnyddio'r amgylchedd naturiol, syrffio, a gweithgareddau ar y traeth fel arfau therapiwtig i gefnogi plant a phobl ifanc sy'n profi heriau iechyd meddwl. Mae'r prosiect wedi chwarae rhan bwysig wrth ddarparu ffyrdd amgen, ystyrlon i bobl ifanc reoli eu hiechyd meddwl a datblygu hyder.
Helpodd y prosiect adeiladu cysylltiadau cymdeithasol rhwng defnyddwyr gwasanaeth, darparu strategaethau ymdopi iach a chefnogi eu hadferiad.
Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian: “Diolch i Cychwyn Cryfach Tesco am gefnogi’r prosiect lleol hwn.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”