Neidio i'r prif gynnwy

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda yn cefnogi unedau cemotherapi

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda yn cefnogi mynediad i system oeri croen y pen i gleifion sy'n cael cemotherapi yn ysbytai Glangwili a Thywysog Philip, diolch i’ch rhoddion.

Dywedodd Gina Beard, Prif Nyrs Ganser: “Rydym yn ddiolchgar bod rhoddion wedi ein galluogi i barhau i gynnig system oeri croen y pen i gleifion sy’n cael triniaeth cemotherapi. Mae oeri croen y pen yn helpu i atal colli gwallt ac mae'n effeithiol i lawer o gleifion."

Yn y llun mae Nyrsys Staff Rosanne Thomas a Kirsty Gostling gydag un o'r systemau oeri croen y pen, sydd hefyd ar gael yn Ysbytai Bronglais a Llwynhelyg.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: