Neidio i'r prif gynnwy

Mae elusen y GIG yn ariannu gwaith celf a chadair gwerth dros £5,000 ar gyfer Uned Colposgopi yn Llwynhelyg

Yn y llun uchod (o'r chwith i'r dde): Sharon Evans, Cydlynydd Colposgopi ac Elaina Hoss, Colposgopydd.

 

Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu ariannu gwaith celf a chadair lledorwedd ar gyfer yr Uned Colposgopi yn Ysbyty Llwynhelyg.

Mae colposgopi yn driniaeth a ddefnyddir i edrych ar serfics, rhan isaf y groth ym mhen uchaf y fagina. Fe'i gwneir yn aml os bydd sgrinio serfigol yn canfod celloedd annormal yng ngheg y groth.

Mae'r man aros, y coridor a'r ystafelloedd adfer yn yr Uned Colposgopi bellach yn cynnwys delweddau bywiog o Sir Benfro. Gall cleifion weld y golygfeydd o gysur cadair lledorwedd newydd sbon.

Dywedodd Elaina Hoss, Colposgopydd: “Mae’r tîm Colposgopi yn ddiolchgar iawn bod cronfeydd elusennol wedi galluogi’r uned i gael gweddnewidiad bach.

“Rydym wrth ein bodd gyda’r hyn a dderbyniwyd ac rydym mor ddiolchgar. Mae ein cleifion wedi nodi pa mor wych y mae’n edrych ac rydym yn hapus iawn gyda’n hamgylchedd newydd ei wella.”

Dywedodd Sharon Evans, Cydlynydd Colposgopi: “Mae’n hyfryd croesawu cleifion i’n hadran sydd bellach yn lliwgar. Mae’r delweddau hardd yn bywiogi ein diwrnod.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: