Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu ariannu gemwaith cofrodd i deuluoedd a gefnogir gan y Gwasanaeth Gofal Lliniarol Pediatrig.
Mae’r gemwaith pwrpasol wedi’i ariannu drwy roddion i’r Gronfa Ddymuniadau, ymgyrch sy’n rhoi cyfle i blant a phobl ifanc a’u teuluoedd a gefnogir gan y Gwasanaeth Gofal Lliniarol Pediatrig wneud atgofion hudolus y gellir eu cofio am byth.
Mae gan y gemwaith olion bysedd anwyliaid wedi'u gosod arno.
“Bydd y teuluoedd a gefnogir gan y Gronfa Ddymuniadau yn gallu trysori a chreu cysylltiad parhaol â’r gemwaith am byth.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn ddiolchgar iawn am y rhoddion y mae’r Gronfa Ddymuniadau wedi’u derbyn dros y ddwy flynedd ddiwethaf sydd wedi ein galluogi i brynu eitemau mor bwysig ar gyfer y teuluoedd a gefnogir gan y Gwasanaeth Gofal Lliniarol Pediatrig.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”