Neidio i'r prif gynnwy

Mae elusen GIG yn ariannu diwrnod astudio ar enedigaeth ffolennol unionsyth

Yn y llun uchod: Dr George Haroun yn darparu hyfforddiant i staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

 

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu ariannu diwrnod astudio ar enedigaeth ffolennol unionsyth i staff y bwrdd iechyd, diolch i roddion hael.

Mae esgoriad ffolennol unionsyth yn ddull sy'n defnyddio disgyrchiant i helpu i gefnogi genedigaeth haws. Gan ddefnyddio'r dull hwn, mae'r fam yn cael ei hannog i aros yn unionsyth ac yn egnïol trwy gydol cam cyntaf yr esgor ac yna'n cael ei chefnogi i gymryd y safle o'i dewis ar gyfer yr enedigaeth.

Mae cyflwyniadau ffolennol yn digwydd mewn tua 4% o feichiogrwydd.

Dywedodd Becky Westbury, Arweinydd Tîm Bydwragedd Cymunedol: “Rydyn ni mor ddiolchgar bod cronfeydd elusennol wedi galluogi ein staff i fynychu diwrnod astudio ar esgoriad ffolennol.


“Mae’n anochel y bydd cyflwyniadau ffolennol heb eu canfod yn ystod y cyfnod esgor, ac mewn ardaloedd gwledig, mae llai o staff ar gael i gefnogi pan fydd angen cymorth. Felly, mae’n bwysig bod gan gynifer o aelodau staff â phosibl sgiliau a gwybodaeth yn yr elfen hon o ofal.”

Dywedodd Dr George Haroun, Ymgynghorydd Obstetreg a Gynaecoleg: “Rwy’n ddiolchgar iawn am y croeso cynnes a gefais gan dîm Hywel Dda pan gynhaliais y diwrnod hyfforddi ar y pwnc hynod bwysig hwn.

“Mae trefnu’r diwrnod hyfforddi hwn yn dangos pa mor ymroddedig ydych chi i ddarparu profiad geni diogel a chofiadwy i’ch cymuned, hyd yn oed pan fydd babanod yn cyflwyno mewn ffyrdd anarferol fel esgoriad ffolennol.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: