Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cronfa Gymunedol Leol Co-op yn codi dros £2,200 i elusen GIG

Mae Gwasanaeth Celfyddydau mewn Iechyd Cwm Seren ac Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg wedi derbyn dros £2,200 o gyllid diolch i Gronfa Gymunedol Leol y Co-op.


Cefnogir Elusennau Iechyd Hywel Dda gan Gronfa Gymunedol Leol y Co-op sy'n ceisio codi arian ar gyfer sefydliadau cymunedol.

Mae dwy geiniog o bob punt sy’n cael ei gwario ar gynnyrch brand Co-op dethol yn mynd yn ôl i’r cwsmer, ac mae Co-op yn rhoi’r un swm yn ôl i sefydliadau ac achosion cymunedol lleol – fel Elusennau Iechyd Hywel Dda.

Rhoddodd y Co-op yn Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin £1,008.40 i’r elusen, a rhoddodd y Co-op yn Neyland £1,211.42.

Dywedodd Kathryn Lambert, Cydlynydd Celfyddydau mewn Iechyd: “Rydym yn falch iawn o dderbyn y cyllid hwn gan Gronfa Gymunedol Leol y Co-op a fydd yn ein helpu i ddarparu profiadau a gweithgareddau celfyddydau creadigol dyrchafol i’n cleifion yn Ward Cwm Seren, Caerfyrddin ac Ysbyty Llwynhelyg dros gyfnod y gaeaf.

“Bydd y cyllid yn helpu i wella profiad y claf, gan leddfu diflastod a gwella lles meddyliol a chorfforol. Diolch i bawb a gyfrannodd i ni drwy'r Co-op!"

Achos lleol newydd Elusennau Iechyd Hywel Dda a gefnogir gan Gronfa Gymunedol Leol y Co-op yw’r Gronfa Ddymuniadau, ymgyrch sy’n rhoi cyfle i blant a phobl ifanc yn ardal Hywel Dda â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd ac sy’n peryglu bywyd a’u teuluoedd i greu atgofion hudolus.

I gefnogi Elusennau Iechyd Hywel Dda wrth siopa gyda Co-op, lawrlwythwch ap Co-op a dewiswch Elusennau Iechyd Hywel Dda neu ewch i: https://membership.coop.co.uk/causes/70738

Dilynwch ni: