Yn y llun: Mae tîm LHP yn dod at ei gilydd i ddathlu eu helusen y Flwyddyn
Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi'i chyhoeddi fel Elusen y Flwyddyn 2026-27 gan LHP Accountants, un o'r cwmnïau cyfrifyddu mwyaf yng ngorllewin Cymru, gyda swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Hwlffordd, Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan, Aberaeron, Dinbych-y-pysgod, Cross Hands a Llanymddyfri.
Bydd y cwmni'n codi arian ar gyfer yr Uned Gofal Arbennig Babanod a'r Uned Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili er cof am eu cydweithiwr annwyl Elin, a gollwyd yn anffodus i ganser y fron.
Mae staff LHP yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau codi arian drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys Diwrnod Golff mewn partneriaeth â JCP Solicitors, raffl y Pasg, beicio noddedig a gêm bêl-droed. Ac mae tîm o staff hefyd yn codi arian drwy gymryd rhan yn Penwythnos Cwrs Hir Cymru, lle mae Elusennau Iechyd Hywel Dda yn bartner elusennol swyddogol.
Dywedodd Eirian Humphreys, Cyfarwyddwr LHP: "Mae colli ein cydweithiwr ifanc yn boen nad yw byth yn ein gadael mewn gwirionedd, mae'n ein hatgoffa bod bywyd yn cael ei fesur mewn eiliadau. Am y 18 mis nesaf, fel busnes byddwn yn codi arian ar gyfer yr Uned Gofal Arbennig Babanod a'r Uned Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili er cof am Elin."
Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian yn Elusennau Iechyd Hywel Dda: "Rydym wrth ein bodd i fod yn Elusen y Flwyddyn LHP, ac rydym mor ddiolchgar i dîm gwych LHP am eu cefnogaeth.
"Bydd yr arian yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r rhai sy'n derbyn gofal yn yr Uned Gofal Arbennig Babanod a'r Uned Cemotherapi yng Nglangwili, gan dalu am eitemau a gweithgareddau sydd uwchlaw a thu hwnt i gyllid craidd y GIG, ond sy'n cael effaith mor gadarnhaol ar brofiadau cleifion, eu teuluoedd a'u staff."
I gefnogi ymgyrch LHP, ewch i: https://www.justgiving.com/page/lhp-accountants-1758122145751