Neidio i'r prif gynnwy

Her Tân Dan Draed yn codi £1.5k ar gyfer adran niwroffisioleg Glangwili

Ymgymerodd y Ffisiolegydd Clinigol Katie Harris â her Tân Dan Draed Hywel Dda fis Hydref diwethaf i godi arian ar gyfer yr adran niwroffisioleg yn Ysbyty Glangwili.

Cododd Katie gyfanswm o £1,545 i’r adran a dywedodd ei bod “wedi mwynhau’n fawr” cymryd rhan.

“Roedd yn brofiad rhyfeddol, grymusol a dwi’n wirioneddol ddiolchgar i fod wedi bod yn rhan ohono,” esboniodd Katie. “Gyda’r arian a godwyd, rydym yn gobeithio prynu Cert Gemau Rockin R ar gyfer ein hadran Niwroffisioleg yn Ysbyty Glangwili, sy’n cynnwys Xbox a gwasanaethau ffrydio fel Netflix a YouTube.”

Ychwanegodd: “Bydd hyn o fudd mawr i gynifer o’n cleifion, yn enwedig plant, sy’n gorfod eistedd am gyfnodau hir wrth gael eu profion EEG wedi’u gwneud.”

Ychwanegodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian yn Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Diolch yn fawr iawn i Katie am godi swm mor anhygoel i Elusennau Iechyd Hywel Dda.”

“Rydym yn ddiolchgar iawn am bob rhodd a dderbyniwn, ni waeth pa mor fach neu fawr. Nid yw’r rhoddion elusennol a dderbyniwn yn disodli cyllid y GIG. Fe’u defnyddir i ddarparu eitemau a gweithgareddau y tu hwnt i wariant craidd y GIG.”

Dilynwch ni: