Neidio i'r prif gynnwy

Her rhedeg 200km yn codi £1,500 i elusen y GIG

Mae Jason Clifton wedi codi swm arbennig o £1,500 i Adran Canser y Pen a'r Gwddf yn Ysbyty Glangwili.

Drwy gydol mis Awst 2022, rhedodd Jason 200km i gefnogi Adran Canser y Pen a’r Gwddf yng Nglangwili a’r tîm Radiotherapi yn Ysbyty Singleton, lle cafodd ofal anhygoel.

Cafodd Jason ddiagnosis o garsinoma celloedd cennog ym mis Rhagfyr 2021. Cafodd 30 rownd o radiotherapi a dwy ddos o gemotherapi dros gyfnod o dri mis.

Rhwng ei ddiagnosis a'i driniaeth, dioddefodd Jason hefyd golled drasig ei dad a thri aelod arall o'r teulu.

Dywedodd Jason: “Dechreuais redeg ar ôl i’m triniaeth ddod i ben. Roedd mynd allan ym myd natur wedi fy helpu yn aruthrol. Fe wnes i therapi dŵr oer hefyd. Penderfynais redeg 200km ym mis Awst i helpu eraill ac i roi yn ôl i Adran Canser y Pen a’r Gwddf yn Ysbyty Glangwili a Radiotherapi yn Ysbyty Singleton.

“Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb am y rhoddion, cymorth a chefnogaeth anhygoel.

Dywedodd Anwen Butten, Nyrs Glinigol Arbenigol Canser y Pen a’r Gwddf: “Hoffai Tîm Canser y Pen a’r Gwddf Bwrdd Iechyd Hywel Dda ddiolch o galon i Jason.

“Bydd y rhoddion hael hyn yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu fel arfer i gleifion canser y pen a’r gwddf a’u teuluoedd cyn ac ar ôl triniaeth, yn ystod eu hadferiad hirdymor a darparu cymorth i’n cleifion lliniarol”

Dilynwch ni: