Yn y llun: Staff y GIG yn derbyn hyfforddiant mewn cefnogi cleifion sydd wedi colli gwallt
Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn falch o gyhoeddi dyfarniad cyllid i gefnogi Cam 2 y fenter Heads Up, gwasanaeth unigryw sy’n darparu gofal colli gwallt holistaidd arbenigol, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i bobl yr effeithir arnynt gan driniaeth canser.
Bydd y cyllid hwn yn galluogi parhad gwasanaeth Heads Up tan 31 Rhagfyr 2027, yn dilyn ei lansiad llwyddiannus ym mis Ionawr 2024. Mae'r cyllid wedi cael arian cyfatebol hael gan ddau sefydliad partner: Apêl Uned Ddydd Canser Ysbyty Llwynhelyg a Cancer Hair Care.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw’r Bwrdd Iechyd cyntaf yng Nghymru i ddarparu gwasanaeth cymorth cynhwysfawr ar gyfer colli gwallt sy’n gysylltiedig â cemotherapi. Mae'r gwasanaeth, a ddarperir gan Cancer Hair Care, yn cysylltu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac arbenigwyr gofal gwallt o gymunedau lleol i rymuso cleifion i reoli eu taith colli gwallt gydag annibyniaeth, urddas a dewis.
Dywedodd Gina Beard, Nyrs Canser Arweiniol: “Rydym yn hynod ddiolchgar i’n cymunedau lleol am eu rhoddion hael, sydd wedi gwneud y cyllid hwn yn bosibl. Gall colli gwallt fod yn un o sgîl-effeithiau mwyaf trallodus triniaeth canser, ac mae’r gwasanaeth hwn yn helpu cleifion i deimlo eu bod yn cael eu clywed, eu bod yn cael eu cefnogi a’u bod yn meddu ar offer a chyngor ymarferol. Diolch i’r cyllid hwn, gallwn barhau i gynnig gofal cynhwysol, tosturiol sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.”
Mae menter Heads Up eisoes wedi darparu miloedd o bwyntiau cyffwrdd â chleifion, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a thrinwyr gwallt ar draws ardal Hywel Dda. Mae'n cynnig cefnogaeth wedi'i theilwra ar gyfer pob cam o'r daith colli gwallt, gan gynnwys opsiynau penwisg, gofal ael a blewyn llygad, ac arweiniad ar dyfiant gwallt newydd. Mae'r gwasanaeth hefyd yn darparu hyfforddiant i nyrsys a thrinwyr gwallt lleol, gan helpu i adeiladu cymuned o weithwyr proffesiynol gwybodus a all gynnig cymorth sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Rydym mor ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu at Elusennau Iechyd Hywel Dda. Mae eich cefnogaeth yn ein galluogi i ariannu prosiectau fel Heads Up sy’n mynd y tu hwnt i ddarpariaeth safonol y GIG ac sy’n wirioneddol wella gofal cleifion.”
Dywedodd Trish George, Trysorydd Apêl Uned Ddydd Canser Ysbyty Llwynhelyg: “Ar ôl ariannu’r peilot gwreiddiol a Cham 1 o’r prosiect Heads Up yn Sir Benfro a gweld ei lwyddiant, rydym yn falch iawn o allu ariannu costau cyflwyno’r prosiect cyffrous a buddiol hwn i lawer mwy o drigolion Sir Benfro dros y ddwy flynedd nesaf.”
Dywedodd sylfaenydd Cancer Hair Care Jasmin Julia Gupta: “Mae cymaint o’r defnyddwyr gwasanaeth wedi anfon negeseuon mor ddiffuant o ddiolch am y gwasanaethau creadigol, tosturiol ac arbenigol y maent wedi’u derbyn. Rydym wrth ein bodd ac yn freintiedig i barhau â’r gwasanaeth hwn y mae mawr ei angen. Mae'n ymdrech tîm mewn gwirionedd a hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r holl gleifion, y staff nyrsio a gofal iechyd, y cyllidwyr a'r trinwyr gwallt ymroddedig, sydd wedi cefnogi'r prosiect hwn mewn ysbytai ac yn y gymuned.
“Rydym yn chwilio am fwy o drinwyr gwallt i ymuno â’r prosiect a hoffem annog trinwyr gwallt i gysylltu â Cancer Hair Care yn uniongyrchol i ddangos eu diddordeb drwy ein gwefan yn www.cancerhaircare.co.uk neu drwy e-bost yn support@cancerhaircare.com.”
Dywedodd Josh Wood, Rheolwr Busnes Caffael Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi chwarae rhan fach wrth gaffael y gwasanaethau hanfodol hyn sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Mae’r ymarfer yn enghraifft wych o’r gwerth ychwanegol sylweddol y gall caffaeliad ei gyflawni gydag ymgysylltiad SME lleol a gwerth cymdeithasol yn chwarae rhan ganolog yn y wobr i gyflawni yn erbyn blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer datgarboneiddio, yr economi sylfaenol, gwerth cymdeithasol ac ymgysylltu â’r gymuned, grymuso a datblygu drwy fynediad teg i wasanaethau yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
“Mae enghraifft o’r gwaith rhagorol y mae Cancer Hair Care yn ei gynnig o fewn y contract yn cynnwys partneriaethau coleg a digwyddiadau i ymgysylltu’n weithredol â chenedlaethau’r dyfodol a’u hyfforddi, gan wneud gwybodaeth mor hanfodol yn rhan o’r cwricwlwm safonol ar gyfer trinwyr gwallt.”