Neidio i'r prif gynnwy

Grŵp beicio modur yn nodi 25 mlynedd o ddosbarthu llawenydd i blant sy'n derbyn gofal

Yn y llun uchod: Grŵp Beicio Modur The 3 Amigos and Dollies

Yr hydref hwn, mae grŵp beicio modur o orllewin Cymru yn dathlu carreg filltir wirioneddol nodedig: 25 mlynedd o godi arian, dosbarthu teganau, a haelioni twym-galon i blant sy'n derbyn gofal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae Grŵp Beicio Modur The 3 Amigos and Dollies yn paratoi ar gyfer eu 25ain Taith Deganau flynyddol, sef taith Nadoligaidd yn dosbarthu teganau ac anrhegion i blant sy'n derbyn gofal a thriniaeth dros gyfnod y Nadolig. Mae'r hyn a ddechreuodd fel menter fach gyda dim ond wyth beic wedi tyfu i fod yn fudiad cymunedol sydd wedi cyffwrdd â miloedd o fywydau.

Dros y chwarter canrif diwethaf, mae'r grŵp wedi:

  • Codi tua £300,000
  • Casglu tua 200 o fagiau un dunnell o deganau
  • Teithio bron i 1,500 o filltiroedd yn dosbarthu llawenydd led-led y rhanbarth.

Mae eu digwyddiadau nodweddiadol, sef y Daith Wyau Pasg a’r Daith Deganau, wedi dod yn ddiwrnodau i’w dathlu, gan ddenu cannoedd o feicwyr a chefnogwyr bob blwyddyn. Diolch i ymdrechion The 3 Amigos and Dollies, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol y bwrdd iechyd, wedi gallu ariannu gwelliannau i wasanaethau plant sy’n mynd y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu.

Un enghraifft ddiweddar oedd rhodd i uwchraddio’r ardal chwarae ar Ward Cilgerran yn Ysbyty Glangwili, lle gwnaeth aelodau’r grŵp hyd yn dorchi llewys i helpu i beintio ac adnewyddu’r lle.

Dywedodd Tobi Evans, Gwirfoddolwr ar gyfer Grŵp Beicio Modur The 3 Amigos and Dollies: “Pan drefnodd y tri aelod gwreiddiol eu taith deganau gyntaf, roedd wyth beic ac fe godon nhw £80. Ond dros y 25 mlynedd ers hynny, rydym wedi codi mwy o arian ac wedi casglu mwy o deganau nag y gallwn ei gofio.

“Nawr, o ganlyniad i haelioni pawb sydd wedi cyfrannu, rydym yn gallu rhoi miloedd bob blwyddyn gyda channoedd o feiciau yn ymuno â ni. Mae pobl mor hael, ac rydym yn gwybod mai diolch iddyn nhw yw ein bod wedi cyrraedd y garreg filltir hon.”

Dywedodd Eleanor Marks, Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn hynod falch o ddathlu’r garreg filltir hon gyda Grŵp Beicio Modur The 3 Amigos and Dollies. Mae eu hymroddiad, eu tosturi, a’u hysbryd cymunedol wedi cael effaith barhaol ar fywydau plant a theuluoedd led-led ein rhanbarth. Am chwarter canrif, maent wedi mynd yr ail filltir i ddod â chysur a llawenydd i’r rhai sydd yn yr ysbyty, ac rydym yn ddiolchgar iawn am bopeth y maent wedi’i wneud.”

Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Allwn ni ddim diolch digon i Grŵp Beicio Modur The 3 Amigos and Dollies. Mae eu teithiau wedi dod â gwên i nifer dirifedi o blant ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Boed yn deganau, wyau Pasg neu gronfeydd hanfodol, maent wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Diolch!”

Os hoffech chi gefnogi 25ain Taith Deganau Grŵp Beicio Modur The 3 Amigos and Dollies, dyma ddyddiadau casglu'r teganau:

  • 18 Hydref: Home Bargains, Doc Penfro
  • 8 Tachwedd: Asda, Doc Penfro
  • 15 Tachwedd: Morrisons, Hwlffordd
  • 22 Tachwedd: Tesco, Hwlffordd

Dyma ble y gallwch ddod â’ch anrhegion:

  • Hwlffordd: Boots, Tesco
  • Doc Penfro: Asda, Tesco
  • Aberdaugleddau: Mabon Gifts, Pebbles
  • Penfro: Foundry House
  • Cilgeti: Co-op
Dilynwch ni: