Neidio i'r prif gynnwy

Grŵp beiciau modur yn apelio am wyau Pasg a rhoddion ar gyfer taith wyau elusennol

Mae Grŵp Beiciau Modur 3 Amigos a Dollies yn apelio am wyau Pasg a rhoddion ar gyfer eu taith wyau Pasg fis Mawrth hwn.

Cynhelir y daith wyau Pasg ar ddydd Sul 24 Mawrth.

Mae’r daith yn cefnogi gwasanaethau plant ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Action for Children.

Mae'r daith yn ddigwyddiad poblogaidd sy'n gweld cannoedd o feicwyr modur yn casglu ac yn dosbarthu wyau Pasg.

Bydd y daith  yn cychwyn am 1:00pm ar 24 Mawrth ym maes parcio The Commons ym Mhenfro. Bydd y grŵp yn teithio trwy nifer o drefi de Sir Benfro.

Dywedodd Jenna Abbott, aelod o Grŵp Beiciau Modur 3 Amigos a Dollies: 'Mae'n wych gallu cynorthwyo'r GIG a Action for Children unwaith eto. Rydym yn gweld drosom ein hunain y gwahaniaeth y mae'n ei wneud ac rydym yn ddiolchgar i bawb sy'n gallu rhoi i ni.'

Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian: “Diolch yn fawr iawn unwaith eto i Grŵp Beiciau Modur 3 Amigos a Dollies am fynd gam ymhellach a thu hwnt i gefnogi gwasanaethau plant ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

“Ni allwn ddiolch digon iddynt am eu hamser, eu hymdrech a’u hymroddiad i godi arian. Os gallwch chi, cefnogwch y grŵp y Pasg hwn!”

I gael rhagor o wybodaeth am ddyddiadau a lleoliadau casglu, cysylltwch â Ness ar 07971 774893 neu Grizz ar 07515 631554.

Dilynwch ni: