Neidio i'r prif gynnwy

Grantiau Cronfa Gymunedol Leol Co-op yn ariannu blychau lles ar gyfer cleifion cemotherapi

Yn y llun: claf Alyson Gayle Montinaro yn derbyn blwch lles yn Uned Dydd Cemotherapi Ysbyty Tywysog Philip

Diolch i gyllid hael gan Gronfa Gymunedol Leol y Co-op, a ddyfarnwyd gan siopau Co-op yn Llanelli ac Aberteifi, mae cleifion sy'n cael cemotherapi yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth ac Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli wedi elwa o focsys lles wedi'u paratoi’n arbennig.

Mae'r grant wedi galluogi Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, i brynu 75 o focsys lles yr un ar gyfer yr unedau dydd cemotherapi.

Mae pob blwch yn cynnwys eitemau a ddewiswyd yn ofalus gan staff nyrsio i gefnogi lles meddyliol a chorfforol cleifion yn ystod ac ar ôl triniaeth.

Mae'r pecynnau yn cynnwys:

  • Hetiau cynnes, bandanas, a chapiau i'r rhai sy'n profi colli gwallt
  • Hufenau llaw a chorff i leddfu croen
  • Sanau cynnes a menig i helpu gyda sensitifrwydd ac oerfel a achosir gan rai triniaethau.

Mae'r eitemau meddylgar hyn yn anelu at leddfu rhai o sgîl-effeithiau anochel cemotherapi a darparu cysur yn ystod cyfnod heriol.

Dywedodd Bry Phillips, Uwch Reolwr Nyrsio – Oncoleg: "Rydym mor ddiolchgar i Gronfa Gymunedol Co-op am wneud y blychau lles hyn yn bosibl. Byddant yn darparu cysur a sicrwydd i'n cleifion yn ystod yr hyn a all fod yn gyfnod anhygoel o anodd, gan eu helpu i deimlo eu bod yn derbyn gofal y tu hwnt i'w triniaeth glinigol."

Dilynwch ni: