Yn y llun uchod: Byron Williams gyda staff o'r Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip.
Cododd Byron yr arian drwy arddangosfa ffotograffau yn Harbour Light Tearoom ym Mhorth Tywyn i ddiolch am y gofal a gafodd yn yr uned.
“Rwyf felly’n hynod ddiolchgar i’r GIG am achub fy mywyd. Ar ben hyn, cefais fy nerbyn i Ysbyty Tywysog Philip yn 2022 ar ôl i mi lewygu a chefais fy rhoi ar beiriant anadlu am bum wythnos.Canfuwyd fy mod yn dioddef o endocarditis.
“Yna cefais lawdriniaeth agored ar y galon yn Ysbyty Treforys i newid fy falf aortig a chwe wythnos arall o adferiad yn Ysbytai Glangwili a Thywysog Philip. Ni allaf fynegi pa mor ddiolchgar ydw i am y GIG ac y byddaf am byth.
“Fel ffotograffydd lleol, ym mis Tachwedd 2024, gofynnwyd i mi gynnal arddangosfa ffotograffau tri mis yn Harbour Light Tearoom ym Mhorth Tywyn. Mae’r holl elw o’r gwerthiant wedi mynd i’r Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Phillip.
“Hoffwn ddiolch i’r canlynol am roddion a chefnogaeth: Gwerthwr ceir Gravells yng Nghydweli; Specsavers yn Llanelli; Autumn Leaf ym Mhorth Tywyn; y Grŵp Cyfeillgarwch Cymunedol ym Mhorth Tywyn; Cadno Fashion ym Mhorth Tywyn ac Harbour Light Tearoom ym Mhorth Tywyn.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG.