Diolch i’ch rhoddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi prynu pentwr o ddeunyddiau celf ar gyfer ward plant Angharad yn Ysbyty Bronglais.
Mae yna bensiliau lliw, creonau, pinau ffelt, brwshys tew, setiau peintio sbwng, stampwyr ewyn a phaent.
Dywedodd yr Arbenigwr Chwarae Iechyd, Paul Harries (yn y llun): “Rydym yn rhoi’r deunyddiau celf a chrefft hyn i gleifion ifanc i’w defnyddio wrth erchwyn y gwely. Maen nhw’n tynnu sylw ac yn rhan o’r gofal therapiwtig rydyn ni’n ei ddarparu, gan wella profiad y claf ar y ward trwy chwarae.”
Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, llesiant a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG.
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”