Diolch i'ch rhoddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi prynu chwe ffrâm gerdded i'w defnyddio gan gleifion ar ward Rhiannon yn Ysbyty Bronglais.
Dywedodd Mari Davies, Ffisiotherapydd Arweiniol ar gyfer y Tîm Ffisiotherapi Acíwt a Chymunedol yng Ngheredigion: “Mae’r cymhorthion cerdded yn cael eu defnyddio gan gleifion i leihau’r risg o gwympo a hybu symudedd.
“Mae’r fframiau’n helpu cleifion llawfeddygol ôl-lawdriniaethol a chleifion orthopedig i godi a chynyddu eu hannibyniaeth, gan helpu gyda rhyddhau cyflymach”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
Yn y llun gydag un o'r fframiau mae Wendy Mattick, Ymarferydd Cynorthwyol Ffisiotherapi.