Neidio i'r prif gynnwy

Elusen yn ariannu sesiynau addysgol i blant a phobl ifanc â diabetes

Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi ariannu sesiynau a gweithgareddau addysgol i blant a phobl ifanc â diabetes.

Mae'r Gwasanaeth Diabetes Pediatrig yn trefnu sesiynau ar gyfer plant a phobl ifanc â diabetes a fyddai'n trosglwyddo o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd.

Mae'r sesiynau'n cwmpasu nifer o bynciau i helpu plant a phobl ifanc i reoli eu diabetes yn barod ar gyfer symud i'r ysgol uwchradd. Mae'r sesiynau'n cynnwys cyfrif carbohydradau, rheoli diabetes o ddydd i ddydd yn ystod y diwrnod ysgol, monitro lefelau glwcos, rheoli lefelau glwcos uchel ac isel, rheolau diwrnodau salwch, a bod yn egnïol.

Roedd y gwasanaeth hefyd wedi trefnu sesiwn addysg weithredol SEREN yng Nghlwb Rygbi Nantgaredig, lle bu i blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn sesiwn dysgu rhyngweithiol hwyliog ar sut i reoli eu diabetes wrth wneud ymarfer corff. Anogwyd y plant a'r bobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn ystod y sesiwn, a roddodd gyfle iddynt weld sut y mae ymarfer corff yn effeithio ar eu diabetes a sut i reoli eu lefelau glwcos yn ddiogel.

Mae'r elusen hefyd wedi cefnogi sesiynau eraill, gan gynnwys sesiwn farchogaeth yng Nghanolfan Farchogaeth Rheidol yn Aberystwyth, bowlio yn Xcel Bowl yng Nghaerfyrddin, a sesiwn padlfyrddio a gafodd ei redeg gan Outer Reef yn Saundersfoot.

Roedd yr holl sesiynau yn annog rheolaeth ddiogel ar ddiabetes ac yn fuddiol i'w llesiant emosiynol a seicolegol trwy annog cymorth gan gyfoedion.

Dywedodd Sian Southgate, Nyrs Diabetes Pediatreg: “Rydym yn eithriadol o ddiolchgar bod cronfeydd elusennol wedi galluogi'r Gwasanaeth Diabetes Pediatrig i drefnu'r sesiynau addysgol a'r prynhawniau gweithgareddau ar gyfer y plant a'r bobl ifanc yr ydym yn eu cefnogi.

“Mae bod mewn grŵp yn rhoi cyfle i'r plant a'r bobl ifanc gwrdd â phlant a phobl ifanc eraill â diabetes y tu allan i leoliadau clinigol. Mae'n helpu i hyrwyddo a chynnal iechyd da yn eu bywydau.”

Dilynwch ni: