Neidio i'r prif gynnwy

Elusen yn ariannu gweithgareddau creadigol ar gyfer staff y GIG i hybu lles

Llun: Aelod o staff Hywel Dda yn mwynhau gweithgareddau creadigol.

 

Diolch i’ch rhoddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda – elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – wedi darparu £35,000 i ariannu rhaglen ddwy flynedd o weithgareddau creadigol ar gyfer staff y GIG ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae Tîm Celfyddydau ac Iechyd Hywel Dda wedi llwyddo i gyflwyno rhaglen beilot dwy flynedd o weithgareddau creadigol ar gyfer staff a ddangosodd sut y gall y celfyddydau chwarae rhan bwysig wrth wella lles staff, eu cadw, a gofal cleifion.

Bydd y rhaglen newydd yn grymuso hyd yn oed mwy o staff y GIG i elwa ar raglen amrywiol o weithgareddau creadigol, gan hyrwyddo diwylliant iach o gymryd egwyl a hunanofal.

Dywedodd Kathryn Lambert, Cydlynydd y Celfyddydau mewn Iechyd: “Credwn fod y ddarpariaeth gweithgareddau creadigol eisoes wedi cyfrannu at newid diwylliant ar draws y Bwrdd Iechyd, lle mae staff yn cael eu hannog i ddod â’u holl waith i’r gwaith.

“Mae gweithlu anhygoel ein GIG yn wynebu llawer o heriau bob dydd. Bydd y rhaglen ddwy flynedd yn galluogi hyd yn oed mwy o staff ar draws y Bwrdd Iechyd i elwa ar weithgarwch creadigol, gan wella eu lles, eu morâl a’u sgiliau ymdopi.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: