Neidio i'r prif gynnwy

Elusen yn ariannu eitemau synhwyraidd ar gyfer cleifion Clefyd Alzheimer a Dementia yn Adran Achosion Brys Llwynhelyg

Yn y llun uchod (o'r chwith i'r dde): Tracey Sanders, Uwch Brif Nyrs a Jo Dyer, Uwch Reolwr Nyrsio.

 

Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu ariannu eitemau synhwyraidd gwerth dros £800 i gleifion â Chlefyd Alzheimer neu Dementia sy’n mynychu’r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Llwynhelyg.

Mae’r eitemau’n cynnwys llyfrau a jig-sos sy’n helpu i leihau pryder a thawelu meddwl cleifion â Chlefyd Alzheimer a Dementia.

Dywedodd Josephine Dyer, Uwch Reolwr Nyrsio: “Rydym yn ddiolchgar iawn bod cronfeydd elusennol wedi ein galluogi i brynu’r eitemau synhwyraidd ar gyfer yr Uned Achosion brys.

“Gall fod yn drallodus iawn i gleifion â Chlefyd Alzheimer a Dementia gael eu tynnu o amgylchedd eu cartref a’u rhoi mewn man clinigol. Er mwyn ceisio gwrthdroi'r effeithiau pryderus hyn, mae'n hanfodol ceisio gwneud eu hamgylchedd gofal mor gyfforddus a chyfarwydd â phosibl.

“Gall symbyliad synhwyraidd ddarparu nifer o fanteision gan gynnwys ymlacio, gwella hwyliau, a hybu teimladau cadarnhaol. Mae’r eitemau synhwyraidd hefyd yn darparu ymgysylltiad a all dawelu, ysgogi atgofion arbennig a gall hyn arwain at well hwyliau a bodlonrwydd tra yn yr Adran Achosion Brys yn Llwynhelyg.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: