Neidio i'r prif gynnwy

Elusen yn ariannu cerddoriaeth fyw therapiwtig i helpu cleifion uned gofal dwys

Yn y llun uchod: Y delynores Delyth Jenkins o Music in Hospitals and Care.

 

Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi darparu dros £7,000 i ariannu cerddoriaeth fyw therapiwtig reolaidd i gleifion mewn pedair Uned Gofal Dwys ar draws y bwrdd iechyd.

Mae'r cyllid wedi darparu sesiynau cerddoriaeth fyw i gleifion ar draws yr Unedau Gofal Dwys yn Ysbytai Glangwili, Tywysog Philip, Llwynhelyg a Bronglais am flwyddyn.

Mae’r sesiynau awr, a ddechreuodd ym mis Ebrill 2023 yn dilyn rhaglen beilot, wedi gwella lles cleifion, eu teuluoedd a staff mewn Gofal Dwys ar draws y bwrdd iechyd trwy ddarparu cerddoriaeth fyw dyner sy’n tawelu a thynnu sylw.

Mae’r sesiynau wedi’u cyflwyno gan Music in Hospitals and Care, elusen sy’n gwella iechyd a lles plant ac oedolion trwy bŵer iachâd cerddoriaeth fyw. Mae Music in Hospitals and Care wedi darparu cerddorion o orllewin Cymru ar gyfer y sesiynau.

Dywedodd Sarah Carmody, Rheolwr Gwasanaeth yr Uned Gofal Critigol: “Rydym yn gyffrous iawn am y therapi cerdd newydd sydd wedi cael ei ddarparu ar draws ein Hunedau Gofal Dwys diolch i gronfeydd elusennol.

“Mae ein staff wedi dweud pa mor hyfryd yw gweld y gerddoriaeth yn gwneud i’n cleifion wenu. Mae’r sesiynau wedi creu awyrgylch ymlaciol i’n cleifion yn yr uned.”

Dywedodd Kathryn Lambert, Cydlynydd y Celfyddydau mewn Iechyd: “Mae’r adborth rydyn ni wedi’i gael gan gleifion, staff a cherddorion wedi bod yn wych.

“Mae cyflwyno cerddoriaeth fyw yn y lleoliad Gofal Dwys yn helpu i greu amgylchedd tawel a therapiwtig, gan wella profiad y claf, ac mae’n helpu i ddangos sut mae’r staff yn y gwasanaethau Gofal Dwys yn mynd gam ymhellach i ofalu am eu cleifion.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: