Neidio i'r prif gynnwy

Elusen y GIG yn prynu teledu ar gyfer ward strôc ac adsefydlu Ysbyty Tywysog Phillip

Yn y llun (o'r chwith i'r dde): Barbara Lewis a Claire Hopkin, Cynorthwywyr Adsefydlu, a Caroline Gregory, Swyddog Cyswllt Teuluol.

 


Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu prynu teledu newydd ar gyfer y Ward Strôc ac Adsefydlu yn Ysbyty Tywysog Phillip, diolch i roddion.

Mae’r teledu wedi’i osod yn ystafell ddydd y ward.

Dywedodd Emily Jenkins, Uwch Brif Nyrs: “Rydym yn ddiolchgar iawn bod cronfeydd elusennol wedi ein galluogi i brynu teledu newydd ar gyfer yr ystafell ddydd.

“Mae llawer o gleifion yn treulio amser yn yr ystafell ddydd gyda’u perthnasau yn ystod oriau ymweld. Mae’r teledu o fudd i’n cleifion gan ei fod yn rhoi rhywfaint o normalrwydd iddynt ac mae’n gyswllt â’u bywydau cyn y strôc.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: