Uchod: Yn y llun gydag un o'r setiau teledu newydd mae'r Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Sian Davies
Diolch i roddion lleol, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi prynu dau deledu i gleifion ar ward plant Angharad yn Ysbyty Bronglais.
Mae'r setiau teledu wedi disodli rhai diffygiol yn y ddwy ystafell ochr ar y ward.
Dywedodd Bethan Hughes, Rheolwr y Ward: “Mae cael setiau teledu wrth erchwyn y gwely yn wrthdyniad da i blant sy’n sâl.”
“Maent yn rhan hanfodol o ddarparu profiad sy’n canolbwyntio ar y teulu pan fydd cleifion mewn ystafelloedd ochr, gan ein helpu i wella amgylchedd y ward.”
Yn y llun gydag un o'r setiau teledu newydd mae'r Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Sian Davies.
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”