Neidio i'r prif gynnwy

Elusen y GIG yn prynu matresi wedi'u gwresogi ar gyfer Uned Gofal Arbennig Babanod

Uchod: Yn y llun gydag un o'r matresi poeth mae (o'r chwith) y Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd Sarah Allsworth a Louise Richards

 

Diolch i roddion lleol, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi prynu dwy fatres wedi ei gwresogi ar gyfer yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod yn Ysbyty Glangwili.

Mae'r pâr o fatresi, sydd gyda'i gilydd yn costio bron i £5,000, yn helpu babanod i drosglwyddo o grud cynnal i grud arferol.

Dywedodd Sandra Pegram, Rheolwr yr Uned: “Mae babanod cynamserol a sâl yn cael eu nyrsio mewn crud cynnal pan gânt eu derbyn gyntaf i'r uned. Unwaith y bydd eu cyflwr wedi sefydlogi, caiff y babanod eu trosglwyddo i grud. Ond weithiau mae angen rhywfaint o wres ychwanegol ar y babanod i'w helpu i gynnal eu tymheredd a gellir cyflawni hyn trwy ddefnyddio matres wedi'i gwresogi.

“Gall babanod ddatblygu problemau gyda’u lefelau siwgr yn y gwaed os na allant gadw’n gynnes, a all yn ei dro achosi cymhlethdodau sydd angen ymyrraeth feddygol. Gall cynhesu babanod cyn amserol leihau cymhlethdodau a gwella canlyniadau, gan fod o fudd i’r babi a’r teulu.”

Yn y llun gydag un o'r matresi poeth mae (o'r chwith) y Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd Sarah Allsworth a Louise Richards.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: