Neidio i'r prif gynnwy

Elusen y GIG yn prynu 50 o ddyfeisiau symudol ar gyfer cleifion y galon

Diolch i roddion lleol, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi prynu 50 o ddyfeisiau symudol ar gyfer cleifion y galon ar draws ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae'r dyfeisiau Kardia yn cael eu defnyddio gartref gan gleifion ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i asesu cyfradd curiad y galon a rhythm.

Dywedodd Jenny Matthews, Uwch Ymarferydd Nyrsio ar gyfer Cardioleg Gymunedol (sydd yn y llun gydag un o’r dyfeisiau): “Mae’r dyfeisiau hyn yn gludadwy ac mae cleifion yn eu cysylltu ag ap ar eu ffôn. Os byddant yn cael crychguriadau'r galon neu rythmau calon anarferol, gall cleifion gymryd darlleniad gan ddefnyddio eu bysedd ac adolygir hyn gan yr Adran Cardio-anadlol i weld a oes angen meddyginiaeth.

“Mae cleifion a all elwa o’r gwasanaeth yn y cartref hwn yn cael eu nodi mewn un o’r naw clinig yr wythnos rydym yn eu cynnal ar draws ein tair sir.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: