Neidio i'r prif gynnwy

Elusen y GIG yn cefnogi cleifion canser y colon a'r rhefr

Yn y llun uchod: Cleifion y colon a'r rhefr yn ystod sesiwn lles.

 

Mae Gwasanaeth y Colon a’r Rhefr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi gallu darparu sesiynau lles a gweithdy gwneud torchau i gleifion diolch i Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Galluogodd rhoddion hael i elusen y GIG gleifion i gyfarfod yng Nghanolfan Morlan yn Aberystwyth.

Cymerodd cleifion ran hefyd mewn sesiwn gwneud torchau Nadolig yng Nghanolfan Arddio Newmans yn Aberystwyth diolch i'r cyllid.

Dywedodd Siobhan Thomas, Nyrs Glinigol Arbenigol Oncoleg: “Rydym mor ddiolchgar bod cronfeydd elusennol wedi ein galluogi i drefnu’r sesiynau lles, grwpiau cymorth a gwneud torchau ar gyfer ein cleifion a’u teuluoedd.

“Mae darparu grwpiau cymorth i gleifion a theuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio ac sy’n parhau i gael eu heffeithio gan ganser y colon a’r rhefr yn rhoi cyfle i gleifion leisio unrhyw bryderon gyda’u gweithiwr allweddol a chefnogi ei gilydd, yn ogystal â chodi eu hysbryd trwy gymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau llesol.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sy’n ychwanegol at yr hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: