Yn y llun uchod: Castiau a ariennir gan yr elusen.
Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu ariannu deunyddiau i wneud mowldiau castio llaw a throed 3D ar gyfer teuluoedd a gefnogir gan y Gwasanaeth Gofal Lliniarol Pediatrig.
Mae’r deunyddiau wedi’u hariannu gan roddion i’r Gronfa Ddymuniadau, ymgyrch sy’n creu atgofion i’r plant a’r bobl ifanc sydd â chyflyrau sy’n bygwth bywyd ac sy’n cyfyngu ar fywyd a’u teuluoedd.
Dywedodd Rachel Brown, Arbenigwr Chwarae Gofal Lliniarol Pediatrig: “Rydym mor ddiolchgar am y rhoddion i’r Gronfa Ddymuniadau sydd wedi caniatáu i ni brynu’r deunyddiau sy’n ein galluogi i wneud mowldiau 3D ar gyfer y teuluoedd rydym yn eu cefnogi.
“Diolch i’r cyllid hwn, gallwn ddarparu mowldiau 3D llaw a throed o’r plant a’r bobl ifanc rydym yn eu cefnogi i’w teuluoedd eu cadw. Fe'u rhoddir ar gyfer achlysuron arbennig fel pen-blwydd neu Nadolig.
“Mae’r eitemau cofrodd hyn yn ystyrlon iawn i’r teuluoedd rydyn ni’n eu cefnogi. Maent yn annwyl ac yn gymorth hanfodol yn y broses alaru.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn ddiolchgar iawn am roddion i’r Gronfa Ddymuniadau sydd wedi ein galluogi i brynu eitemau mor bwysig i deuluoedd a gefnogir gan y Gwasanaeth Gofal Lliniarol Pediatrig.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
Dysgwch fwy am sut y gallwch gefnogi'r gwasanaethau hyn yma: https://hywelddahealthcharities.nhs.wales/campaigns/the-wish-fund/