Neidio i'r prif gynnwy

Elusen y GIG yn ariannu hyfforddiant rhagnodi meddyginiaeth ffordd o fyw ar gyfer nyrs glinigol arbenigol

Yn y llun uchod: Janet Bower; Nyrs Glinigol Arbenigol Niwro-Oncoleg

 

Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu ariannu hyfforddiant ar-lein Rhagnodi Meddyginiaeth Ffordd o Fyw ar gyfer Nyrs Glinigol Arbenigol Niwro-Oncoleg, Janet Bower.

Mae meddyginiaeth ffordd o fyw yn gangen o feddyginiaeth sy'n canolbwyntio ar ofal iechyd ataliol a hunanofal. Mae'n canolbwyntio ar feysydd fel maeth, gweithgaredd corfforol, cwsg, rheoli straen, osgoi sylweddau peryglus, a chysylltiadau cymdeithasol cadarnhaol. Mae'r cwrs yn hyfforddi'r ymarferydd mewn gofal personol ac egwyddorion meddyginiaeth ffordd o fyw, gan eu cefnogi i dyfu eu hyder wrth gymhwyso meddyginiaeth ffordd o fyw mewn ffordd ymarferol i ymarfer.

Mae Janet yn cefnogi ac yn gofalu am bobl sydd wedi cael diagnosis o diwmor sylfaenol ar yr ymennydd ar draws ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Dywedodd Janet: “Rwy’n hynod ddiolchgar bod cronfeydd elusennol wedi caniatáu i mi ddilyn yr hyfforddiant Rhagnodi Meddyginiaeth Ffordd o Fyw. Mae’r hyfforddiant wedi fy nghefnogi i ymateb i heriau y mae pobl yn eu hwynebu sydd y tu allan i’r sgîl-effeithiau nodweddiadol sy’n gysylltiedig â thriniaeth.

“Er enghraifft, mae llawer o gleifion tiwmor yr ymennydd yn cael eu heffeithio gan flinder, rheolaeth wael ar ddiabetes, diffyg cwsg, llai o ymarfer corff a cholli hyder. Bydd y cwrs hwn yn fy hyfforddi i asesu ar gyfer y materion ehangach sy'n effeithio ar bobl a darparu cyngor ymarferol i wella ansawdd eu bywyd.

“Her gofalu am bobl â thiwmorau ar yr ymennydd yw y gall opsiynau triniaeth fod yn gyfyngedig a dod â sgil-effeithiau heriol. Mae cwblhau’r cwrs hwn wedi golygu y gallaf gynnig opsiwn arall i bobl sy’n diwallu eu hanghenion unigol ochr yn ochr ag unrhyw driniaeth gonfensiynol.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: