Neidio i'r prif gynnwy

Elusen y GIG yn ariannu gwerth dros £10,000 o offer efelychu ar gyfer unedau gofal critigol ledled Hywel Dda

Llun: Staff Hywel Dda yn cymryd rhan mewn hyfforddiant

 

Diolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu ariannu offer efelychu ar gyfer unedau gofal critigol ar draws y bwrdd iechyd i hwyluso datblygiad staff.

Defnyddir offer efelychu i wella gwybodaeth a sgiliau staff trwy roi cyfle i staff ail-greu sefyllfa o argyfwng gan ddefnyddio manicinau, meddyginiaethau a dyfeisiau sy'n efelychu sefyllfaoedd brys.

Gall aelodau’r tîm gofal critigol amlddisgyblaethol ymarfer sut i ddarparu’r gofal mwyaf effeithiol wrth drin claf sy’n dirywio ac sydd angen ymateb cyflym, gan sicrhau bod llwybr anadlu, cymorth anadlu a chardiofasgwlaidd yn cael ei ddarparu mewn modd amserol. Yn ogystal, mae'n rhoi cyfle i gryfhau'r berthynas rhwng y tîm wrth reoli sefyllfaoedd argyfyngus mewn amgylchedd go iawn.

Dywedodd Sandra Miles, Prif Addysgwr Ymarfer ar gyfer ITU: “Rydym yn hynod ddiolchgar bod rhoddion elusennol wedi caniatáu i ni brynu’r offer gwych hwn.

“Mae hyfforddi a datblygu staff yn hanfodol bwysig i ddarparu gwasanaethau, yn enwedig o ystyried natur newidiol ac esblygol gofal critigol.

“Mae’r offer efelychu o gymorth mawr wrth gyflwyno hyfforddiant, gan sicrhau bod sgiliau’n gyfredol a gwella’r gwasanaeth a ddarperir, cymhelliant a morâl staff.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: