Yn y llun uchod: Staff gyda'r camau adsefydlu.
Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi prynu grisiau adsefydlu ar gyfer cleifion eiddil sy’n cael ffisiotherapi yn Ysbyty Llwynhelyg.
Bydd y grisiau yn cael eu lleoli yn Ward Eiddilwch Ysbyty Llwynhelyg.
Dywedodd Lisa Marshall, Uwch Brif Nyrs: “Rydym yn hynod ddiolchgar am y rhoddion sydd wedi ein galluogi i brynu’r grisiau adsefydlu newydd ar gyfer y Ward Eiddilwch.
“Bydd cael set o risiau i’n claf ymarfer â nhw yn gwella adferiad ein cleifion gan weithio gyda’n ffisiotherapyddion o ddydd i ddydd.
“Bydd y grisiau o fudd i’r llwybr eiddilwch i gadw ein cleifion yn symudol ac yn actif.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”