Neidio i'r prif gynnwy

Elusen y GIG yn ariannu cadeiriau gorwedd gwerth dros £3,000 ar gyfer Llwynhelyg

Llun: Aelod o staff ar un o'r cadeiriau lledorwedd.

 

Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu ariannu dwy gadair lledorwedd gwerth dros £3,000 ar gyfer yr Uned Eiddilwch yn Ysbyty Llwynhelyg.

Gall y cadeiriau lledorwedd addasadwy gefnogi cleifion i eistedd a sefyll yn ddiogel ac yn gyfforddus.

Dywedodd David Canning, Arweinydd Therapi ar gyfer Eiddilwch: “Rydym yn ddiolchgar iawn bod cronfeydd elusennol wedi galluogi’r uned i brynu dwy gadair orwedd newydd.

“Bydd y cadeiriau newydd yn helpu i ailadrodd yr hyn sydd gan lawer o gleifion gartref. Mae llawer o gleifion wedi dod yn eithaf dibynnol ar y rhain gartref ac felly'n cael trafferth i sefyll ar eu traed pan fyddant yn dod i'r ysbyty.

“Bydd y cadeiriau hefyd yn helpu’r therapi a staff y ward i adsefydlu cleifion a lleihau anafiadau drwy helpu cleifion i sefyll yn hytrach na bod staff yn gorfod helpu cleifion yn gorfforol, gan leihau’r straen ar staff.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: