Neidio i'r prif gynnwy

Elusen GIG yn prynu teganau meddal ar gyfer Uned Gofal Arbennig Babanod

Diolch i roddion lleol, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi prynu teganau meddal i gysuro mamau newydd a'u babanod sydd wedi gwahanu oherwydd trosglwyddiadau meddygol.

Yn yr Uned Gofal Arbennig Babanod yn Ysbyty Glangwili, mae babanod, ar adegau, yn cael eu gwahanu oddi wrth eu rhieni oherwydd eu bod yn cael eu trosglwyddo i uned arall ar gyfer gofal mwy arbenigol.

Mewn rhai achosion, mae'n llawer o ddyddiau cyn y gellir aduno rhieni gyda'u newydd-ddyfodiaid.

Er mwyn helpu yn ystod y gwahaniad hwn, darperir teganau meddal union yr un fath ar gyfer y fam a'r babi, fel cofrodd bach.

Dywedodd Sandra Pegram, Rheolwr Uned: “Ein nod yw cael rhieni yn ôl at ei gilydd gyda’u babanod cyn gynted â phosibl. Os oes rhaid gwahanu, gall hyn fod yn anodd iawn i famau newydd.

“Mae'r teganau meddal yn gysur ac yn helpu ychydig gyda'r gwahaniad. Rhoddir teganau unfath i'r fam a'r babi a phan fyddant yn cael eu haduno, mae rhieni'n aml yn rhoi'r teganau at ei gilydd neu'n rhoi un i frawd neu chwaer hŷn. Mae rhieni wedi dweud wrthym fod y teganau meddal yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.”

Mae cŵn bach, ŵyn, cwningod, deinosoriaid, mwncïod ac unicornau o’r gwneuthurwr teganau meddal Jellycat wedi’u darparu ar gyfer yr Uned.

Yn y llun gyda rhai o'r teganau mae (o'r chwith) Nyrs Feithrin Sioned James, Rheolwr Uned Sandra Pegram a'r Addysgwr Ymarfer Catrin Johns.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: