Neidio i'r prif gynnwy

Elusen GIG yn ariannu llyfrau hunangymorth ar gyfer cleifion canser

Yn y llun uchod (o'r chwith i'r dde): Sally-Ann Rolls, Nyrs Glinigol Arbenigol; Linsey Jones, Cydlynydd Oncoleg Acíwt Macmillan a Leann Davies, Ymarferydd Cynorthwyol.

 

Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu ariannu llyfrau hunangymorth ar reoli pyliau poeth a chwysau nos ar gyfer cleifion canser y fron.

Pyliau poeth a chwysu yn y nos yw'r symptomau diwedd y mislif mwyaf cyffredin a achosir gan driniaethau canser y fron.

Mae'r llyfrau hunangymorth yn darparu gwybodaeth ac offer allweddol i helpu cleifion i ddeall y symptomau a delio â nhw.

Dywedodd Linsey Jones, Cydlynydd Oncoleg Acíwt Macmillan: “Rydym yn ddiolchgar iawn bod cronfeydd elusennol wedi caniatáu i ni brynu’r llyfrau hyn.

“Yn flaenorol, fe wnaethom gyflwyno cwrs Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) ar gyfer rheoli pyliau poeth a chwysu yn y nos i gleifion canser y fron sy'n profi'r sgîl-effeithiau hyn a ariannwyd diolch i roddion elusennol.

“Mae’r holl wybodaeth am y cwrs yn cael ei darparu yn y llyfrau hunangymorth hyn, a byddwn yn rhoi’r llyfrau hyn i gleifion a oedd â diddordeb yn y cwrs hwn ond nad oeddent yn gallu ei wneud.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG.

Dilynwch ni: