Neidio i'r prif gynnwy

Elusen GIG yn ariannu cyrsiau rhedeg i staff

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi ariannu cyrsiau fel y gall chwe aelod o staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ddod yn hyfforddwyr rhedeg i fentora cydweithwyr, diolch i roddion.

Dywedodd Dan Blyth, Arbenigwr Diwylliant a Phobl yn y bwrdd iechyd: “Mae hwn yn gymhwyster achrededig pwysig. Bydd y chwe aelod o staff yn sefydlu grwpiau rhedeg ar draws tair sir y bwrdd iechyd i annog staff i ddechrau rhedeg ar gyfer eu ffitrwydd a’u lles.”

Dau o'r rhai a gwblhaodd yr hyfforddiant oedd Jessica Owens, gweinyddwr swyddfa yn Ysbyty Llwynhelyg, a Rachel Davies, Fferyllydd Clinigol yn Ysbyty Tywysog Philip.

Dywedodd Jessica: “Penderfynais gynnig fy hun ar gyfer y cwrs Arweinyddiaeth mewn Ffitrwydd Rhedeg gan fod rhedeg wastad wedi bod yn hobi i mi ac roeddwn i’n teimlo ei fod yn gyfle i wthio fy hun allan o fy nghysur a magu hyder. Roeddwn hefyd angen rhywfaint o hunan-gymhelliant ar ôl cael babi, i gael fy hun yn ôl i redeg.

“Nawr fy mod wedi cymhwyso, fy nod yw dechrau grŵp rhedeg staff hamddenol ac anffurfiol yn Sir Benfro lle gall pobl o bob gallu athletaidd ddod at ei gilydd i annog ac ysgogi ei gilydd i redeg er ein hiechyd, lles a hapusrwydd. ”

Dywedodd Rachel: “Dechreuais redeg i wella fy ffitrwydd ac ar gyfer colli pwysau yn 2016. Ers ymuno â chlwb rhedeg, rwyf wedi cwblhau rasys lluosog dros bob pellter o 800m i farathon. Ar ddechrau’r pandemig, dechreuais feicio ac rwyf wedi cystadlu mewn sawl duathlon, gan gynrychioli tîm grŵp oedran Prydain Fawr yn fwyaf diweddar ym mhencampwriaethau duathlon yn Romania a Bilbao y llynedd.

“Rwy’n gwerthfawrogi’n fawr y buddion y gall rhedeg, boed am hwyl neu’n gystadleuol, eu cael ar eich lles meddyliol a chorfforol. Rwy’n gobeithio defnyddio fy mhrofiad i helpu eraill i wella eu lles corfforol a meddyliol. Rwy’n gobeithio cyflwyno grŵp rhedeg wythnosol a fydd yn darparu ar gyfer pob gallu gan gynnwys y rhai sy’n gwbl newydd i redeg.”

Dilynwch ni: