Yn y llun uchod (Chwith i'r Dde): Aimee Holt ac Emma Williams, Swyddogion Gwybodaeth a Chymorth Canser
Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi ariannu llyfrau a Phecynnau Cwmwl Canser sy'n cefnogi teuluoedd i ddeall diagnosis canser yn well ac ymdopi â phrofedigaeth.
Mae elusen y GIG wedi ariannu amrywiaeth o adnoddau i gefnogi rhieni sy'n cael sgyrsiau gyda'u plant am ddiagnosis o ganser, ac i gefnogi plant a phobl ifanc sy'n galaru a'u teuluoedd.
Dywedodd Emma Williams, Swyddog Gwybodaeth a Chymorth Canser: “Rydym yn hynod ddiolchgar bod cronfeydd elusennol wedi caniatáu i ni brynu’r adnoddau hyn.
“Mae darparu gwybodaeth i blant a phobl ifanc a all eu helpu i ddeall yn well beth mae canser yn ei olygu iddyn nhw a’u teuluoedd yn ddefnyddiol iawn i deuluoedd lleol.
“Mae’r Pecynnau Cwmwl Canser yn cefnogi cyfathrebu wrth gael sgyrsiau anodd ac yn helpu’r teulu i archwilio’r effaith emosiynol y gall diagnosis canser ei chael.
“Mae llyfrau Winston’s Wish yn cynnig arweiniad ymarferol ac adnoddau i unrhyw oedolyn sy’n cefnogi plentyn ar ôl i rywun farw. Mae cael mynediad at y llyfrau hyn yn cefnogi ansawdd y gwasanaeth a ddarperir i blant a phobl ifanc a’u teuluoedd yn lleol.”
Mae’r adnoddau ar gael i deuluoedd drwy’r timau Gwybodaeth a Chymorth Canser yn ysbytai Glangwili, Bronglais, Llwynhelyg a Thywysog Philip.
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG.