Neidio i'r prif gynnwy

Elusennau Iechyd Hywel Dda i bweru Wales Half Marathon 2024

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi cyhoeddi mai nhw fydd y partner “Powered By” ar gyfer Wales Half Marathon yn ystod Long Course Weekend Wales 2024. Dyma'r drydedd flwyddyn i'r Elusen fod yn Bartner Elusen Teitl.

Mae’r elusen, sy’n ceisio gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion y GIG, defnyddwyr gwasanaeth a staff ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd cyffrous i’w chefnogwyr ar draws holl ddigwyddiadau Long Course Weekend Wales 2024.

Mae Wales Half Marathon sy’n cael ei gynnal ar 23 Mehefin, wedi’i gydnabod yn eang fel un o’r rasys gorau a mwyaf heriol allan yna. Gyda golygfeydd godidog o’r môr a thir tonnog, mae’r digwyddiad yn dechrau yng Nghastell Penfro ac yn gorffen yn Ninbych-y-pysgod.

Mae’r Wales Half Marathon yn uchafbwynt y Long Course Weekend Wales a gynhelir ar 21ain-23ain Mehefin, a dyma’r ŵyl aml-chwaraeon fwyaf yn Ewrop, gan ddenu dros 10,000 o athletwyr a 35,000 o gefnogwyr o 45 o wledydd. Mae digwyddiadau’n cynnwys Nofio Cymru, beicio a digwyddiadau i blant.

Dywedodd Tara Nickerson, Rheolwr Codi Arian yn Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Yr elusen oedd y partner “Powered By” yn nigwyddiadau 2022 a 2023, ac mae nid yn unig wedi rhoi hwb codi arian mawr, ond mae hefyd wedi codi ein proffil yn sylweddol. Mae ein codwyr arian anhygoel wedi codi dros £16,000 ar gyfer eu helusen GIG leol - ac wedi cael amser anhygoel!

“Rydym yn gyffrous iawn i fod yn gweithio mewn partneriaeth â Activity Wales Events yn 2024. Rydym yn cynnig cyfleoedd unigryw i'n cefnogwyr gymryd rhan mewn digwyddiadau ar draws y Long Course Weekend cyfan. Mae ein nifer cyfyngedig o leoedd rhad ac am ddim yn cael eu cynnig ar sail y cyntaf i’r felin, felly os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â ni!”

Dywedodd Oliver Duckett PGA, Rheolwr Perthynas Fyd-eang, Activity Wales Events “Rydym wrth ein bodd mai ein helusen GIG leol yw’r partner “Powered By” ar gyfer Wales Half Marathon 2024. Mae Wales Half Marathon yn ddigwyddiad arbennig i gymaint o bobl ac rydym wrth ein bodd y byddwn gyda’n gilydd yn codi arian at achos mor wych.”

Fel rhan o'u partneriaeth unigryw mae gan Elusennau Iechyd Hywel Dda gynigion nofio, beicio a rhedeg ar gael i godwyr arian. Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan ymweld â: https://elusennauiechydhyweldda.gig.cymru/ymgyrchoedd-a-digwyddiadau/long-course-weekend/ neu cysylltu â Thîm Elusennau Iechyd Hywel Dda dros y ffôn ar 01267 239815 neu drwy e-bost yn Fundraising.HywelDda@wales.nhs.uk.

 

Dilynwch ni: