Yn y llun uchod: Georgina Bellcourt; Catrin Charlton, Prif Nyrs; Angharad Carr, Gweithiwr Gofal Cymorth Iechyd; Julie Mayhew, Gweithiwr Gofal Cymorth Iechyd; Annie Evans, Myfyriwr Nyrsio; Matt Toy, Nyrs Staff a Haf Evans, Nyrs Staff.
Cododd Georgina yr arian i ddiolch am y gofal rhagorol a gafodd ei gŵr, Jason, yno.
Dywedodd Georgina: “Dioddefodd Jason drawiad mawr ar y galon ym mis Rhagfyr a dim ond 53 oed ydyw. Bu bron i ni ei golli. Oni bai am yr adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Bronglais ni fyddai yma. Ni allaf ddiolch digon iddynt.
“Roedd yr hanner marathon yn her a dyma fy un cyntaf. Roedd yn emosiynol, yn meddwl am yr holl bobl wych a gefnogodd ni ac a helpodd i godi swm mor wych o arian ar gyfer achos ac adran mor wych a achubodd fywyd Jason.”
Dywedodd Catrin Charlton, Uwch Nyrs: “Ar ran holl staff y Ganolfan Gofal Argyfwng a Brys, diolch i chi am eich rhodd hael, gwerthfawrogir eich cefnogaeth yn fawr.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Georgina am gymryd rhan yn Hanner Llanelli a chodi swm mor wych.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”