Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Golff er budd Apêl Gerddi Ysbyty Tywysog Philip

Uchod: Tîm golff yr Adran Ystadau yn barod amdani!

 

Yn galw ar bob golffiwr! Gallwch ddangos eich cefnogaeth i Apêl Gerddi Ysbyty Tywysog Philip y gwanwyn hwn drwy gymryd rhan mewn diwrnod golff elusennol llawn hwyl.

Mae'r Tîm Cydymffurfiaeth Ystadau yn Ysbyty Tywysog Philip wedi trefnu diwrnod golff elusennol er budd yr Apêl. Cynhelir y digwyddiad yng Nghlwb Golff Glynhir yn Llandybïe ar 10 Mai 2024.

Mae mynediad yn £200 i dîm o bedwar person sydd hefyd yn cynnwys rholyn bacwn a choffi wrth gyrraedd a phryd un cwrs.

Bydd y diwrnod golff yn cael ei chwarae ar fformat stableford, a bydd timau yn cael cyfle i ennill gwobrau gwych!

Dywedodd James Smart, Technegydd CAD yn y Tîm Cydymffurfiaeth Ystadau: “Yn dilyn llwyddiant digwyddiad elusennol y llynedd, pan lwyddodd 55 o gefnogwyr i godi swm o £2,775, mae ein diwrnod golff yn dychwelyd eleni ar gyfer rownd arall i gefnogi Elusennau Iechyd Hywel Dda.

“Eleni rydym yn falch iawn o fod yn codi arian ar gyfer Apêl Gerddi sy’n anelu at greu gerddi therapiwtig newydd gyda mynediad i hyd yn oed y cleifion mwyaf bregus i gefnogi eu lles meddyliol a chorfforol.

“Trwy ymdrechion ar y cyd, ein nod yw adeiladu ar ddigwyddiad y llynedd a darparu’r cyllid y mae mawr ei angen ar gyfer yr Apêl.”

I gael rhagor o wybodaeth am y Diwrnod Golff ac i gofrestru, e-bostiwch: estates.compliance.hdd@wales.nhs.uk.

I gael rhagor o wybodaeth am Apêl Gerddi Tywysog Philip, ewch i: https://hywelddahealthcharities.nhs.wales/campaigns/pph-gardens-appeal/

Dilynwch ni: