Yn y llun uchod: Danielle Allcard (dde pellaf) a rhieni Danielle Catherine a Nigel Allcard (chwith) gyda staff yr uned.
Trefnodd Danielle Allcard, cynorthwyydd dysgu yn Ysgol Gymraeg Llangennech, noson elusennol a chodwyd £4,000 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip.
Trefnwyd y digwyddiad, a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2025 yng Nghlwb Rygbi Llangennech, gan Danielle i ddiolch am y gofal a’r gefnogaeth a gafodd yn yr uned.
Dywedodd Danielle: “Roeddwn eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’r Uned Ddydd Cemotherapi i ddiolch am eu caredigrwydd ac am edrych ar fy ôl mor dda tra roeddwn yn derbyn triniaeth cemotherapi ar gyfer canser yr ofari y llynedd.
“Aeth y digwyddiad yn dda iawn. Roedd yn llawer o hwyl ac yn braf gweld llawer o bobl yn cyfrannu at achos da.
“Hoffwn ddiolch i bawb yng Nghlwb Rygbi Llangennech, pawb a ddaeth i’r noson elusennol a phawb a gyfrannodd at yr achos.”
Dywedodd Kath Watkins, Uwch Brif Nyrs: “Ar ran staff a chleifion yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip, hoffwn ddiolch i Danielle a’i theulu a’i ffrindiau am eu hymdrechion codi arian gan arwain at rodd hael iawn o £4,000.
“Rydym bob amser yn edrych ar ffyrdd o wella’r amgylchedd a gwella’r ffordd rydym yn gofalu am gleifion yn yr Uned Ddydd Cemotherapi. Byddwch yn dawel eich meddwl y bydd yr arian hwn yn mynd tuag at y gwelliant hwn. Diolch!”
Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian: “Diolch i Danielle am gymryd yr amser i drefnu digwyddiad mor wych er budd yr uned cemo.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”