Neidio i'r prif gynnwy

Dawns elusennol yn codi £750 ar gyfer uned cemotherapi

Yn y llun uchod: Viv Jones, Deb Garner a Cathie Newman gydag aelodau o staff yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip.

 

Trefnodd Rhedwyr Ffordd y Sospan ddawns elusennol ar gyfer eu pen-blwydd yn 40 oed a chodwyd £750 ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip.

Mae Rhedwyr Ffordd y Sospan yn glwb rhedeg lleol sydd wedi codi miloedd o bunnoedd i elusennau lleol dros y blynyddoedd.

Dywedodd Debbie Garner, Aelod o Rhedwyr Ffordd Sospan: “Cynhaliwyd y digwyddiad ar 16 Tachwedd 2024 ym Mharc y Scarlets.

“Fe benderfynon ni gefnogi’r uned ar gyfer ein dawns elusennol gan fod nifer o’n haelodau, teulu a ffrindiau wedi defnyddio’r uned. Diolch i’n haelodau, teuluoedd yr aelodau, ffrindiau’r gorffennol a’r presennol am gefnogi’r digwyddiad.”

Dywedodd Diane Henry-Thomas, Swyddog Cymorth Codi Arian; “Diolch i Rhedwyr Ffordd Sospan am ddewis cefnogi’r Uned Ddydd Cemotherapi yn ystod eu 40fed Pen-blwydd.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: