Neidio i'r prif gynnwy

Dathliadau pen-blwydd yn 90 oed yn codi dros £1,000 i Uned Gofal Dwys Llwynhelyg

Yn y llun uchod: Kim Goodall, Uwch Brif Nyrs, Nerys Davies, Uwch Reolwr Nyrsio Raymond Morris ac Ellen Dennison, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd.

 

Cododd Raymond Morris, o Landysilio, £1,050 ar gyfer yr Uned Gofal Dwys (ICU) yn Ysbyty Llwynhelyg yn ystod dathliadau ei ben-blwydd yn 90 oed.

Yn 2019, ar ôl llawdriniaeth 15 awr, derbyniwyd Raymond i'r ICU lle treuliodd bythefnos. Chwe blynedd yn ddiweddarach, roedd Raymond eisiau dangos ei werthfawrogiad i'r uned am y gofal gwych a gafodd.

Ar 15 Chwefror, dathlodd Raymond ei ben-blwydd yn 90 oed. Cynhaliwyd parti yng Nghaffi Beca yn Efailwen gyda dros 80 o westeion yn bresennol. Gofynnodd Raymond am roddion i'r ICU yn lle anrhegion.

Dywedodd Raymond: “Roeddwn i eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’r tîm gwych oedd yn gofalu amdana’ i mor dda. Ni allaf ddiolch digon iddynt ac roedd codi arian i’r uned ar fy mhenblwydd yn 90 yn gyfle perffaith i’w cefnogi. Diolch eto i’r holl staff anhygoel a diolch yn fawr i bawb a gyfrannodd.”

Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian: “Diolch yn fawr iawn i Raymond am ddewis codi arian i ni yn ystod eich dathliadau pen-blwydd yn 90 oed.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG.

Dilynwch ni: