Neidio i'r prif gynnwy

Darllenydd Newyddion yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd i gefnogi Uned Gofal Dwys

Mae Peter Gillibrand, gohebydd a darllenydd newyddion o Gaerdydd, wedi codi £1,866 ar gyfer yr Uned Gofal Dwys (ICU) yn Ysbyty Glangwili.

Rhedodd Peter Hanner Marathon Caerdydd ar 27 Mawrth 2022 wedi’i wisgo mewn gwisg Ladi Gymreig i gefnogi ei frawd, Adam.

Cafodd byd Peter a’i deulu ei droi wyneb i waered pan anfonwyd Adam i uned gofal dwys gyda heintiau ar yr ymennydd ym mis Ionawr 2022.

Dywedodd Peter: “Fe achubodd yr archarwyr yn yr Uned Gofal Dwys fywyd fy mrawd. Ar adegau, dim ond llygedyn o obaith oedd yno ac roedd amseroedd yn dywyll. Ond staff gweithgar yr ICU a'i helpodd i oroesi trwy roi gofal 24/7 iddo wrth iddo gael cymorth anadlu am ddau fis.

“Mae’n wych gallu rhoi yn ôl i’r nyrsys a achubodd Adam. Nawr mae fy nheulu yn hapus ac mae sefyllfa wirioneddol wael wedi troi yn un gadarnhaol.”

Dywedodd Tammy Bowen, Uwch Brif Nyrs: “Hoffem ni fel tîm yr Uned Gofal Dwys ddiolch i Peter Gillibrand am ei rodd garedig a meddylgar.

“Rydym yn gobeithio defnyddio’r arian hwn tuag at wireddu ein breuddwydion o adeiladu gardd ITU y bydd cleifion ac aelodau o’u teuluoedd yn gallu eu mwynhau.”

Dilynwch ni: