Neidio i'r prif gynnwy

Cynhadledd yn helpu staff Hywel Dda i gryfhau gwybodaeth am fwydo ar y fron

Yn y llun uchod: Jan Jones, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd; Padi Sutherland, Bydwraig Arbenigol Bwydo Babanod; Sandra Imperato, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd a Charlotte North, Bydwraig.

 

Diolch i roddion, ariannodd Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wyth aelod o staff i fynychu Cynhadledd Rithiol Menter Cyfeillgar i Fabanod 2024 UNICEF/WHO.

Roedd Janice Jones, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd; Sandra Imperato, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd; Deborah Weymouth, Bydwraig; Kelly Rees, Bydwraig; Izabela Middleton, Bydwraig; Anwen Brown, Bydwraig; Roedd Charlotte North, Bydwraig a Padi Sutherland, Bydwraig Arbenigol Cydlynydd Bwydo Babanod, i gyd yn gallu mynychu'r gynhadledd.

Roedd y gynhadledd yn arddangos ymchwil ac arloesiadau newydd ym meysydd bwydo babanod a meithrin perthynas. Roedd y gynhadledd yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau gan gynnwys anghenion cymorth bwydo babanod menywod ag afiechyd meddwl difrifol, tosturi ac arloesedd mewn gofal iechyd, prisio fformiwla, a mwy.

Dywedodd Padi Sutherland: “Rydym yn ddiolchgar iawn bod rhoddion elusennol wedi galluogi ein staff i gymryd rhan yn y gynhadledd hon.

“Mae’r gynhadledd wedi helpu ein staff i gryfhau eu gwybodaeth a’u sylfaen dystiolaeth i gefnogi cynyddu’r potensial i fenywod a phobl sy’n geni sy’n bwydo ar y fron yn y tymor hwy.

“Byddai gwella cyfraddau bwydo ar y fron y DU yn cael effaith hynod gadarnhaol ar iechyd plant. Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, rydym wedi ymrwymo i gefnogi teuluoedd i gefnogi eu hanghenion o ran bwydo ar y fron yn well.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Dilynwch ni: